Ysgol Dyffryn Teifi

Oni heuir ni fedir

Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

PDFPrintE-mail

Mae disgyblion yr Adran Hanes wedi llwyddo i gipio un o brif wobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.  Aeth aelodau'r Clwb Modelau ati i greu diorama o ffosydd y Ffrynt Gorllewinol a bu disgyblion blwyddyn 9 a 10 wrthi'n ymwchilio i hanes cyn disgyblion Ysgol Ramadeg Llandysul sydd wedi eu coffau ar y gofeb yn llyfrgell yr ysgol.  Y bwriad yw cyhoeddi llyfryn o'u hanesion maes o law.

Roedd y beirniaid wedi eu plesio'n fawr gan y prosiect gan nodi, 'Cafwyd dau ddeilliant arbennig o drawiadaol yn sgil eu hastudiaethau:  model wrth raddfa hanesyddol gywir o ran o'r ffrynt gorllewinol a llyfryn yn croniclo profiadau cyn-ddisgyblion yn y Rhyfel Mawr.  Mae'r ddau yn ffynonellau unigryw sydd eisoes yn profi'n werthfawr iawn i gymuned ehangach yr ysgol a thu hwnt.'

Yn y seremoni wobrwyo yn yr Amgueddfa Genedlaethol dyfarnwyd gwobr o £1000 a gwahoddiad i fynych seremoni dathlu 25ain Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn y Senedd yng Nghaerdydd.  Bu cynrychiolaeth o'r disgyblion,  Antony Jackman, Cameron Heal-White, Lois Thomas ac Amy Davies yn trafod eu prosiect yn y Senedd, yng Nghaerdydd gyda nifer o aelodau'r Senedd a swyddogion a noddwyr y Fenter.

Dyffryn teifi whsisenedd-10 (1) Dyffryn teifiwhsisenedd (4) (1)

Get in Touch!

Address

Ysgol Dyffryn Teifi

Ffordd Llyn-y-Fran

LLANDYSUL

Ceredigion

SA44 4HP

+44 01559362310
gweinyddu@dyffrynteifi.ceredigion.sch.uk

Copyright © 2012 http://www.dyffrynteifi.ceredigion.sch.uk All Rights Reserved.

Joomla Templates By Joomladesigns.co.uk