Ysgol Dyffryn Teifi

Oni heuir ni fedir

Cymraeg

Eisteddfod Felinfach gan Heiddwen Tomos

PDFArgraffuEbost

Llongyfarchiadau i'r canlynol ar ennill yng nghystadleuaeth Llawysgrifen yn Eisteddfod Felinfach a gynhaliwyd yn ddiweddar:-

1af     Cara Currado, Sara-Louise Davies, Mali Thomas

2il       Erin MacDonald, Ceris Howells

3ydd   Caryl Evans, Cerian Jones

 

Her 100 Cerdd - 4 bardd yn cyfansoddi 4 100 cerdd mewn 24 awr

PDFArgraffuEbost

Darllener y gerdd 'I Ddisgyblion Blwyddyn 12 Ysgol Dyffryn Teifi' yma.

Dyma'r linc i'r wefan:  http://her100cerdd.wordpress.com/

Taith Lenyddol Adran y Gymraeg i Ogledd Cymru

PDFArgraffuEbost

Kate a T.H. a Llywelyn a Hedd Wyn a Rownd a Rownd . . .

Fel sydd wedi ei wneud ers blynyddoedd bellach, teithiodd 9 myfyrwyr bl. 12 ac 13 sy'n astudio Cymraeg Safon UG ac Uwch, ynghyd â'u hathrawon, i Ogledd Cymru am dri diwrnod yn ymweld â lleoedd o ddiddordeb hanesyddol a llenyddol.

Dechreuodd y criw yn y bws mini o'r ysgol ar fore Sul, 30 Medi, gan siopa mewn archfarchnad ar y ffordd (y myfyrwyr oedd yn gyfrifol am baratoi'r bwyd i gyd ar y daith) ac aros am bicnic yng Nghorris.  Ymwelyd â Chastell y Bere, ger Abergynolwyn, un o gestyll Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffydd cyn symud ymlaen i Dalysarn a chofeb a man geni R. Williams Parry.  Teithiodd y criw ymlaen drwy fwlch Drws y Coed wedyn a chyrraedd Rhyd-ddu gan basio Llyn y Gadair ar yr ochr dde.  Er ei bod yn bwrw glaw'n drwm, roedd pawb yn gwerthfawrogi golygfeydd dramatig Eryri.  Roeddem yn aros a chysgu am ddwy noson yn Ysgol Rhyd-ddu a Thy'r Ysgol, hen gartref TH Parry-Williams, (testun cerdd sydd ar y cwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg erbyn hyn) a chafwyd llawer o chwerthin yn chwarae gemau a gwledda gyda'r nos yno.  Yn anffodus, oherwydd y tywydd gwael, methwyd â mynd i weld bedd TH Parry-Williams a bedd Gelert y ci.

Ond roedd diwrnod llawn yn disgwyl pawb ar y bore Llun.  Ymwelwyd i ddechrau â Chae'r Gors, cartref Kate Roberts, sydd bellach yn ganolfan ac amgueddfa.  Cawsom weld ffilm fer am ei bywyd ynghyd â gweld creiriau a'r bwthyn lle magwyd hi.  Aethpwyd ymlaen wedyn i fyny i'r grug, er na chawsom de yno!  Roedd y golygfeydd o afon Menai a Chaernarfon yn wych ond hwyrach mai'r hwyl mwyaf a gafwyd oedd ail-greu golygfeydd o'r ffilm Y Mynydd Grug sy'n seiliedig ar y llyfr Te yn y grug.  Mae'r ffilm hon hefyd yn rhan o'r cwrs TGAU.  Bydd y golygfeydd ar y Lôn Wen o Begw a Mair (Hanna a Gwenllian) yn mynd am dro i'r siop, heb sôn am Winni yn chwipio Begw (Meilir a Mared) yn aros yn hir yn y cof!  Cafwyd picnic wrth odre waliau castell Caernarfon - castell rhwysgfawr oedd yn gyferbyniad llwyr i gastell symlach Castell y Bere y diwrnod cynt.  Roedd hwn yn un o gestyll Edward I ac wedi ei adeiladu a'i atgyfnerthu er mwyn dangos i'r Cymry holl rym y Normaniaid a'r Saeson.  Aeth criw bl. 13 i dynnu lluniau y tu allan i Dafarn yr Albert - tafarn y cyfeirir ati yn awdl Meirion McIntyre Huws, 'Gwawr'.

Ymlaen wedyn i Abergwyngregyn a chartref Llywelyn Fawr a Siwan, sef Garth Celyn.  Mae hwn yn gartref preifat nawr ond croesawyd ni i mewn gan Katherine Gibson a chawsom y wefr o ddringo i'r twr ac edrych allan dros draeth Lafan i Ynys Môn.  Roedd cymaint o straeon yn perthyn i'r lle a'r dystiolaeth yn gryf ynglyn â phwysigrwydd Garth Celyn yn ein hanes ni fel cenedl.  Hawdd oedd gweld Llywelyn a Siwan yn byw yno, dychmygu Gwilym Brewys yn cael ei grogi, a theimlo poen Eleanor de Montfort, gwraig Llywelyn ap Gruffydd, yn marw yno ar enedigaeth ei phlentyn Gwenllian yn 1282.  Bydd astudio'r ddrama Siwan yn haws a mwy byw o'i roi yn ei gyd-destun hanesyddol fel hyn.

Y cam naturiol nesaf oedd ymweld ag arch Siwan yn eglwys Biwmares ac yn dilyn hynny ymwelwyd â'r ynys yn afon Menai lle claddwyd y bardd Cynan.  Wedi pryd blasus mewn Indiaidd, aethom wedyn o'r hen i'r cyfoes.  Diolch i Bedwyr Rees, brawd ein prifathro ac enillydd y fedal Ddrama yn y Genedlaethol eleni, cawsom gyfle i ymweld â set yr opera sebon 'Rownd a Rownd'.  Buon ni yn K Kabs, siop drin gwallt Nikki, Caffi Sgram, Q a mwy.  Cafwyd cyfle i drafod gyrfaoedd gwahanol a chafwyd cipolwg ar realiti cynhyrchu rhaglen fel hon.

Y bore canlynol, dyma droi am adref yn y bws gwlyb ond roedd hwn eto'n mynd i fod yn ddiwrnod llawn.  Ymwelwyd â'r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, a braf oedd cwrdd eto â Mr Gerald Williams, nai Hedd Wyn ei hun.  Mae wedi gwerthu'r fferm i Barc Cenedlaethol Eryri yn ddiweddar ond mae'n dal i fyw gerllaw a chymryd diddordeb arbennig yn yr hen le.  Cafwyd cyfle i weld y cadeiriau a chlywed peth o hanes yr Ysgwrn ei hun.  Mae'r ffilm Hedd Wyn ar y cwrs safon UG.

Yn y prynhawn, aethom o'r Llyfrgell Genedlaethol a thywyswyd ni o gwmpas yr adeilad.  Yna, cafwyd y fraint o weld rhai o drysorau'r llyfrgell gan gynnwys copïau o Lyfr Du Caerfyrddin a llyfr Taliesin.  Gyda'r menig gwynion ar ein dwylo, cafwyd cyfle hefyd i droi dalennau argraffiad cyntaf o Feibl yr Esgob William Morgan.  Roedd y cyfan yn glo teilwng iawn i'r daith.

Bu'r bererindod yn llawn o brofiadau a gwybodaeth ddiddorol a dysgwyd llawer iawn am ein hanes a'n treftadaeth.  Cafwyd llawer iawn o chwerthin, tynnu coes a throeon trwstan hefyd ond . . . does dim eisiau i chi wybod popeth!!

 

JPAGE_CURRENT_OF_TOTAL

Cysylltwch a Ni!

Cyfeiriad
Ysgol Dyffryn Teifi
Ffordd Llyn-y-Fran
LlANDYSUL
Ceredigion
SA44 4HP
+44 01559362310
gweinyddu@dyffrynteifi.ceredigion.sch.uk

Copyright © 2012 http://www.dyffrynteifi.ceredigion.sch.uk All Rights Reserved.

Joomla Templates By Joomladesigns.co.uk